Glenys WynneLLOYD JONESLLOYD JONES - GLENYS WYNNE, . Yn 87 mlwydd oed, hunodd yn dawel ar yr 2il Chwefror, 2020 yng Nghartref Brynseiont Newydd, Caernarfon, (gynt o'r Gerlan a Glanffrydlas, Bethesda). Gwraig gariadus y diweddar Richard Lloyd Jones, mam annwyl Euryl a Gerwyn a mam yng nghyfraith Eleri, nain falch Iwan, Aled a Daniel, chwaer Marian a'r ddiweddar Mona, a chwaer yng nghyfraith Vera. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Jeriwsalem Bethesda dydd Mawrth 11 Chwefror am 2 o'r gloch ac yna ym Mynwent Coetmor. Blodau gan y teulu yn unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Ymchwil Dementia trwy law Gareth Williams cyfarwyddwr angladdau 1 Garneddwen, Bethesda Ffôn :01248 600763
Keep me informed of updates